Croeso i chi ymweld â ni yn ein cartref Llaethdy Gwyn yn Bethesda.
Mae cynyrch Cosyn Cymru ar gael mewn nifer o farchnadoedd a gan nifer o werthwyr annibynnol, yn ogystal a’r Siop Ar-Lein. Mae Blas ar Fwyd yn dosbarthu’r cynnyrch i ardaloedd arall Cymru, ac mae rhai o’n Brefu bach yn teithio’r holl ffordd i Lundain, lle gellir eu darganfod yn Neal’s Yard Dairy. Os ydych yn fanwerthwr neu gogydd a diddordeb mewn cynnyrch Cosyn Cymru, yna croeso i chi gysylltu a Carrie, Blas ar Fwyd neu Neal’s Yard.