carrie_03_comp

Dan ddylanwad rhai o gewri'r byd caws, Carrie Rimes sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r cosynnau, yn aradêg a wastad mewn casgliadau bychain gyda llaw, yn ffyddlon i ddulliau traddodiadol.

Wrth ei gwaith ar fferm ffridd yn Nyffryn Ogwen, nôd Carrie yw i greu caws, iogwrt a hufen iâ sy'n dangos y llaeth ar ei orau. Mae hi'n frwdfrydig iawn am addasu manylion y gwaith yn dibynnu ar y tymhorau – mae pob cosyn angen triniaeth unigryw. Rhaid bod yn amyneddgar a dyfalbarhau er mwyn sicrhau fod y caws yn aeddfedu'n hapus a bod y cynnyrch terfynol yn llwyddianus.

Bu Carrie'n meithrin y sgiliau yma ar hyd ei oes, ers oedd hi'n hogan fach yn arbrofi efo'r offer caws ar y fferm teuluol, ac yn fwy diweddar mi dreuliodd tair mlynedd yn gweithio ar fferm fromagerie fach ym mynyddoedd yr Auvergne yn Ffrainc.

Mae'n bleser ganddi rwan i fod nol yn ei chynefin, yn parhau a'r anturiaethau caws ar Ffarm Moelyci, yng nghymuned Dyffryn Ogwen. Eleni bydd gwaith yn cychwyn ar adeiladu ei llaethdy ac selar gaws yno, felly gallwch ymweld a chartref Cosyn Cymru...a blasu'r canlyniadau wrth gwrs!

Er mwyn cysylltu a Carrie, ewch i'r dudalen Cyswllt neu un o'r lincs isod.