Llaethdy yng Ngogledd Cymru yw Cosyn Cymru, sy'n arbenigo mewn caws a iogwrt – a phob dim gan ddefnyddio llefrith defaid.
Er mwyn arddangos y llaeth ar ei orau, mae'r cynnyrch oll yn cael ei wneud a llaw mewn sypiau bychain, a gyda chryn dipyn o amynedd! Gan ddefnyddio cynhwysion naturiol a dulliau traddodiadol, maent wedi ennill sawl gwobr am eu gwaith.