Caws Caled

Olwyn fawr: I'r sawl sy'n hoffi eu Manchego, caws aeddfed yw hwn gyda blas dwfn sy'n parhau'n hir ar y dafod. Gwnaed hi gyda llefrith defaid amrwd a cheuled oen traddodiadol, yna bu'n aeddfedu'n naturiol mewn olwynion chwech-cilogram am bedwar i naw mis. Disgrifwyd yr Olwyn Fawr gan gwsmeriaid fel “blas cymhleth a hir-aros o fêl, cnau cyll a dolydd yn yr haf.” Enillydd Gwobr Arian yn Artisan Cheese Awards 2016 a British Cheese Awards 2016. Caws newydd gorau Sioe Frenhinol Cymru 2016.

Caws Calan: Cefnder iau y Caws Chwarel, gyda blas cryf uniongyrchol. Gwnaed nhw gyda llaeth defaid amrwd a cheuled oen traddodiadol, ond mae'r aeddfedu'n digwydd dros dau fis mewn cosynnau 600 gram. Dewiswyd fel cynnyrch swyddogol i'r band Calan.

Caws Chwaral: Caws llaeth dafad wedi ei seilio ar ddull Caerffili wedi ei aeddfedu'n araf. Gwnaed yr olwynion pump- i chwech-cilogram efo llefrith defaid amrwd a cheuled oen traddodiadol, yna fe'i aeddfedwyd nhw yn naturiol am rhwng dau a phum mis. Mae'r Caws Chwaral yn boblogaidd ymysg rhai sy'n ffafrio blas mwy traddodiadol 'Cymreig' ar eu caws. Gwobr Olivia Mills ar gyfer Rhagoriaeth, 2018

Caws Meddal

Brefu bach: Caws lactig bychan, mewn arddull tebyg i Chaource. Mae gwead hufennog i hon, bron fel menyn, a blâs lemon a madarch i gael. Caniateir i'r ceulion ddatblygu'n raddol bach, gyda'r mymryn lleiaf o geuled llysieuol gyda thrwyth ysgallen ynddi. Maent yn aeddfedu yn naturiol dros gyfnod o dri i saith wythnos, gyda phob caws unigol yn pwyso 120 gram. Enillydd Gwobr Aur a Phencampwr Caws Newydd yn British Cheese Awards 2016. Enillydd Gwobr Aur yn Artisan Cheese Awards 2019. Enillydd Gwobr Olivia Mills ar gyfer Rhagoriaeth, 2019.

Iogwrt naturiol

Mae Iogwrt Cosyn Cymru yn arbennig o hufenog a thrwchus gyda blas cynnil.  Dim byd heblaw y llefrith a'r celloedd meithrin (e.e. Lactobacillus bulgaricus).  Mae’n dod mewn gallipots gwydr unigol 120 ml neu potiau mawr 480 ml, sy’n gallu cael eu hail lenwi. Cynnyrch lleol iachus heb wastraff pecynnu, ac yn hollol flasus.

Bag Wythnosol Cosyn

Paratowch am yr wythnos efo potyn 480ml o iogwrt, un o'r Brefu bach enwog a tamaid go lew o gaws caled tymhorol.