Cosyn Cymru

Llaethdy yng Ngogledd Cymru yw Cosyn Cymru, sy’n arbenigo mewn caws a iogwrt – a phopeth wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio llefrith defaid.

Er mwyn dangos y llefrith ar ei orau, mae’r cynnyrch oll yn cael ei wneud â llaw, mewn sypiau bychain, gan ddefnyddio cynhwysion naturiol, dulliau traddodiadol a digon o amynedd!

Llaethdy a Siop

Mae Carrie Rimes yn gwneud ei chaws arbennig ym Methesda, wrth droed mynyddoedd Eryri.

Mae Carrie wedi adfer ac addasu hen Eglwys Gatholig yn llaethdy pwrpasol a siop. Mae croeso i chi alw draw i weld y caws yn cael ei wneud ac, wrth gwrs, i flasu ffrwyth ei llafur! Mae cynnyrch lleol arall ar werth yn y siop hefyd – siytni, coffi, ffrwythau a llysiau.

Mae ein siop gaws hefyd yn gartref i Caws Gafr Wacky Wedge.

Oriau agor:

Dydd Llun 2-5PM

Dydd Mawrth 2-5PM

Dydd Mercher 2-5PM

Dydd Iau 2-5PM

Dydd Gwener 2-5PM

Dydd Sadwrn 2-5PM

Dydd Sul 2-5PM

Cyfeiriad:

Llaethdy gwyn, Stryd fawr, Bethesda, Bangor, Gwynedd LL57 3BJ

I gysylltu â Carrie, ewch at ein tudalen cyswllt.