Cawsiau Meddal
Brefu Bach :
Yn ôl ein cwsmeriaid: “Mae gwead y caws llefrith dafad meddal, lactig yma yn hufennog a chyfoethog, gyda chroen sidanaidd. Mae’r blas yn ysgafn ac eto’n drawiadol, gydag ôl-flas cynnes sy’n atgoffa rhywun o hufen ffres.” Canaiteir i’r ceuled ddatblygu’n raddol bach, gyda’r mymryn lleiaf o rened llysieuol, sy’n deillio o ysgall. Mae’r cawsiau 120gram yn aeddfedu’n naturiol dros dair i saith wythnos.

Caws caled
Olwyn Fawr:
I’r sawl sy’n hoff o gaws Manchego, mae hwn yn gaws a aeddfedir dan bwysau, a chanddo flas dwfn. Mae’r caws yn cael ei wneud gyda llefrith dafad amrwd a rened oen traddodiadol. Yna, caiff aeddfedu’n naturiol, mewn olwynion chwe chilogram, am bedwar i naw mis. Mae cwsmeriaid wedi disgrifio Olwyn Fawr fel caws sydd â “blas cymhleth, hirhoedlog o fêl, cnau cyll a dolydd yn yr haf”.

Caws Chwaral :
Caws llefrith dafad, ar sail rysait Caerffili a aeddfedir yn araf. Caiff ei wneud gyda llefrith heb ei basteureiddio a rened oen traddodiadol, cyn aeddfedu’n naturiol mewn olwynion pump i chwe chilogram am ddau i bum mis. Caws Chwaral yw ffefryn y rhai sy’n well ganddyn nhw gaws tiriogaethol ‘Prydeinig’ a Chymreig mwy traddodiadol.

Caws Calan :
Cosyn ifanc o Gaws Chwaral yw hwn, â blas llachar a chryf. Caiff Caws Calan ei wneud drwy ddefnyddio llefrith dafad amrwd, rened oen traddodiadol a’i aeddfedu’n naturiol mewn cosynnau 600-gram am ddau i bedwar mis. Dyma gaws swyddogol y band Cymraeg adnabyddus, Calan.

Iogwrt:
Dyma iogwrt trwchus, hufennog, heb ddim wedi’i ychwenagu ar wahân i lefrith a’r celloedd meithrin (e.e. Lactobacillus bulgaricus). Dewis arall, iachus yn lle hufen dwbl! Mae iogwrt Cosyn Cymru ar gael mewn potiau 200ml a 500ml. Gellir dychwelyd ac ailddefnyddio y potiau.
