Cartref y busnes a’r brif siop yw Llaethdy Gwyn ym Methesda, ar gwr Eryri yng Ngogledd Cymru.
Mae cynnyrch Cosyn Cymru hefyd ar gael mewn sawl marchnad a siop annibynnol. Mae caffi a siop Blas Lôn Las, yn Ffarm Moelyci ger Tregarth, yn cadw cyflenwad da o gaws ac iogwrt. Mae Blas ar Fwyd yn dosbarthu caws Cosyn Cymru i ardaloedd eraill o Gymru. Mae rhai o’n Brefu Bach arbenigol yn mynd i Lundain, drwy ddwylo Neal’s Yard Dairy. Os ydych chi’n fanwerthwr neu’n gogydd ac yn awyddus i brynu cynnyrch Cosyn Cymru, cysylltwch â Carrie, Blas ar Fwyd neu Neal’s Yard Dairy.
Cyflenwyr Annibynnol:
§ Blas Lôn Las, Tregarth. Lle da am goffi a chacen.
§ &Caws, Porthaethwy. Mae Ed yn cynnig ystod eang o gawsiau arbennig.
§ Blas ar Fwyd, Llanrwst. Dewis eang o’r gwinoedd gorau hefyd!
§ Neal’s Yard Dairy, Llundain. Prif hyrwyddwyr caws llefrith amrwd.
§ The Beach House, Oxwich. Bwyty seren Michelin Hywel.
§ The Rustic Gourmet, Môn. Hilary, ein cogydd gourmet lleol.
§ Sheeps and Leeks, Caernarfon. Bwyd o’r safon uchaf ar garreg ein drws.
§ The Grate Cheese Deli, Bae Colwyn. Y gwerthwr caws siriol.
§ The Grate Cheese Deli, Conwy. Caws ger y castell.
§ Health and Food, Llanrwst. Lle mae digon o iogwrt bob amser.
§ Ty Caws, Caerdydd. Lle mae Owen yn gwerthu caws Brefu Bach.
§ Welsh Cheese Company, Caerdydd. Cawsiau amrywiol Tom ac eraill yn y brifddinas.
Marchnadau rheolaidd:
§ Marchnad RSPB Conwy – DyddMercher olaf bob mis yng ngwarchodfa RSPB, Conwy (9am -1pm). Ystod eang o gynnyrch lleol a chyfle i wylio adar ar yr un pryd!
§ Marchnad Ogwen – Ail Sadwrn bob mis, yn Neuadd Ogwen, Bethesda (9.30am -1pm). Galwch i mewn am baned a sgwrs.
Denbigh Famrer’s Market – Dydd Sadwrn cyntaf pob mis ym Mharc y Fro, Dinbych 9.00am-12.00. Marchnad boblogaidd gyda dewis eang o gynhyrchion.
Ffeiriau/Digwyddiadau:
§ Ffair Crefftwr Caws Melton Mowbray – y ffair gaws orau, heb os!
§ Gŵyl Fwyd Caernarfon – Un o’r gwyliau bwyd gorau.
§ Sioe Dyffryn Ogwen – am bopeth Pesda.
§ Gŵyl Fwyd Menai – gan obeithio eich gweld yn ôl yn 2024.
§ Gŵyl Fwyd Pwllheli – pob hwyl ar gyfer 2024.