Amdanom ni

Wedi’i hysbrydoli gan rai o gewri y byd caws, mae Carrie Rimes yn creu cynnyrch o lefrith defaid â llaw, mewn sypiau bach, drwy ddefnyddio cynhwysion naturiol a dulliau traddodiadol.

Gan weithio yn ei llaethdy pwrpasol, nod Carrie yw gwneud caws, iogwrt a chynhyrchion eraill sy’n dangos y llefrith ar ei orau.  

Mae hi’n frwdfrydig dros addasu ei dull o weithio i naws y tymhorau. Mae pob swp yn defnyddio llefrith o ffermydd lleol ac mae pob cosyn yn cael ei drin yn unigol. Mae’r cynnyrch terfynol yn adlewyrchu cyfoeth y borfa y mae’r defaid yn pori arno, a hyd yn oed y tywydd lleol!

Carrie yn gweithio yn y llaethdy

Mae angen amynedd a dycnwch i sicrhau bod y caws yn aeddfedu’n braf ac yn llwyddiannus. Bu Carrie yn meithrin y sgiliau yma ar hyd ei hoes, ers oedd hi’n hogan ifanc yn arbrofi wrth wneud caws ar y fferm deuluol. Yn fwy diweddar, bu’n gweithio am dair blynedd mewn fromagerie ar fferm fechan Ffrengig yng nghanol yr Auvergne.

Carrie holding a tray of cheese in front of the tall front window of the dairy

Bellach, mae Carrie wrth ei bodd o fod yn ôl yn ei chynefin yn Llaethdy Gwyn, yng nghanol cymuned Dyffryn Ogwen, ym Methesda, lle mae hi yn parhau â’i hanturiaethau mewn caws.