Gwobrau

Rownd derfynol Gwobr Bwyd a Ffermio y BBC – Cynhyrchydd Bwyd Gorau 2023.

Diolch i bawb a enwebodd Cosyn.  Hwb mawr i fwyd cynaliadwy lleol, ar raddfa fechan. ‘Anrhydedd go iawn’.

Gwobr Rhagoriaeth Olivia Mills 2018 a 2019 gan Gymdeithas Llefrith Defaid Prydain.

Enillydd Gwobr Aur ac Enillydd Gwobr Caws Newydd Gorau yng Ngwobrau Caws Prydain 2016.

Hon oedd gwobr gyntaf Brefu Bach. “Wedi fy synnu, ac yn falch iawn!

Enillydd y Wobr Aur yn Artisan Cheese Awards 2019.

Diolch yn fawr i Matthew am drefnu’r cynulliad blynyddol arbennig yma o wneuthurwyr caws.

Sioe Frenhinol Cymru – Y caws newydd gorau, Sioe Frenhinol Cymru 2016 a Gwobr Aur 2023

Tlws Coffa James Aldridge – gwobr am y Caws Llefrith Amrwd Prydeinig Gorau 2021. 

Noddir gan Dywysog Cymru ac enwebwyd gan ein cyd-wneuthurwyr Caws Arbenigol.   “Wedi rhyfeddu!”